
WELSH MARINE & FISHERIES SCHEME
Mae’r Cynllun M ôr a Physgodfeydd Cymru ar agor!
Mae £1.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i’r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaeth ung Nghymru. Mae cymorth annibynnol am ddim ar gael i ymgeiswyr drwy brosiect Peilot Pysgodfeydd Cymru ar y cyd â Fishing Animateur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru. I gael gafael ar y cymorth hwn, gall ymgeiswyr gysylltu â'r Fishing Animateur dros y ffôn: 01736 362782, drwy neges destun: 07864087119 neu e-bostio: info@fishinganimateur.co.uk.
Er mwyn fod yn gymwys, mae rhaid i’ch busnes/sefydliad wedi’i leoli yng Nghumru a bod yn fenter forol, bwyd môr neu ddyframaeth yng Nghymru NEU Gorff Sector Cyhoeddus neu Elusen.
Nod y cynllun yw sicrhau twf cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu. Mae'r £1.4 miliwn ar gael o £700,000 o gyllid refeniw a £700,000 o gyllid cyfalaf. Bydd y cyfnod ymgeisio yn parhau ar agor am 10 wythnos, gan gau ar 24 Mawrth. Gellir cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau drwy'r cynllun o dan 11 categori ar wahân.
Categories
Arloesi
Gwasanaethau cynghori
Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
Iechyd, diogelwch a lles
Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd
Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu
Mesurau marchnata
Prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i ddiogelu rhywogaethau
Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol
Effeithlonrwydd ynni
Activities include, but are not limited to:
Mae'r gweithgareddau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
Cyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaeth ac offer ar gychod gyda'r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni;
Cyngor proffesiynol i fusnesau sy'n amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i gynlluniau busnes a marchnata;
Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer eitemau iechyd a diogelwch dewisol ar fwrdd cychod neu ar y tir
Roedd y cylch ariannu diwethaf yn darparu grantiau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys eitemau fel peiriannau iâ, peiriannau naddu iâ, cloriannau, blychau oeri i bysgotwyr, addasiadau i gychod i wella effeithlonrwydd ynni, a phrosiectau casglu tystiolaeth forol.
Y dyfarniad grant uchaf fesul cais yw £100,000 a'r dyfarniad grant isaf yw £500.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle gellir dod o hyd i'r prosesau ymgeisio a hawlio.